Dy fawredd di mor hynod yw

(Tragywyddoldeb Duw)
Dy fawredd di mor hynod yw,
  O Arglwydd Dduw y lluoedd;
Ni all y Seraff mwyaf sy,
  Amgyffred dy weithredoedd.

Nid oes i ti ddim dechreu bod,
  Na diwedd Hanfod iti;
Yr un y ddoe, cyn gwneuthur dyn,
  A foru'r un a fyddi.

Y nefoedd fry, a'r daear hon,
  A'u holl driglion rhyfedd;
Y moroedd mawr, a'r tiroedd maith,
  Ynt gyson waith dy fysedd.
Casgliad E Griffiths 1855
- - - - -

(Duw yn ddiddechreu a diddiwedd)

Dy fawredd di mor hynod yw,
  O Arglwydd Dduw y lluoedd!
A metha'r seraff mwyaf sy
  Amgyffred dy weithredoedd.

Tydi wyt heb ddechreuad bod,
  Na diwedd hanfod iti;
Yr un er doe,
    cyn gwneuthur dyn,
  A fory'r un a fyddi.

Rhoed nef a daear fyth i'n Duw
  Anrhydedd gwiw'n wastadol;
Addoliad dwys, gwasanaeth da,
  Ac ufydd fawl tragwyddol.
Hymnau (Wesleyaidd) 1844

Tôn [MS 8787]: Rhuthyn (B M Williams 1832-1903)

Gwelir:
  Clodforwn di O Arglwydd da
  Dy orsedd oedd erioed Dduw Ner

(The Eternity of God)
Thy greatness is so remarkable,
  O Lord God of the hosts;
The greatest seraph there is cannot
  Grasp thy works.

There is to thee no beginning of being,
  Nor an end of Existence to thee;
The same yesterday, before man's making,
  And tomorrow the same thou wilt be.

Let heavens above, and this earth,
  With all their wonderful inhabitants;
The great seas, and the vast lands,
  Are the constant work of thy fingers.
 
- - - - -

(God as beginningless and endless)

Thy greatness is so remarkable,
  O Lord God of the hosts!
And the greatest seraph there is fails
  To grasp thy works.

Thou art without beginning of being,
  Nor with an end of existence;
The same since yesterday,
    before man's making,
  And tomorrow the same thou wilt be.

Let heaven and earth ever give to our God
  Fitting honour continually;
Intense adoration, good service,
  And dutiful, eternal praise.
tr. 2010,16 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~